Diogelu a Prevent
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i鈥檙 canlynol:
- Darparu amgylchedd diogel i鈥檞 holl staff, myfyrwyr ac ymwelwyr cyn belled ag y bo鈥檔 ymarferol resymol i wneud hynny.
- Darparu amgylchedd sy鈥檔 ddiogel rhag niwed i holl aelodau cymuned y Brifysgol cyn belled ag y bo鈥檔 ymarferol resymol i wneud hynny.
- Cefnogi hawliau plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed gael eu hamddiffyn rhag cam-driniaeth, rhyddid rhag niwed a chael amgylchedd diogel ac iach.
- Sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed rhag camdriniaeth neu niwed.
- Sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle i ymdrin 芒 honiadau o gamdriniaeth.
Mae鈥檙 adnoddau a nodir isod yn amlinellu dull a chyfrifoldebau鈥檙 Brifysgol, yn ogystal 芒 sut mae鈥檙 Brifysgol yn ymdrin 芒 datgeliadau diogelu. Mae darpariaeth ddiogelu鈥檙 Brifysgol hefyd yn ymestyn i鈥檞 threfniadau o dan y Ddyletswydd Prevent, ei hystod o wasanaethau myfyrwyr, a鈥檌 hyfforddiant staff parhaus.
Am rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd o鈥檙 ddiogelu, cysylltwch 芒 diogelu@bangor.ac.uk. Mae鈥檙 cyfeiriad hwn yn cael ei fonitro鈥檔 rheolaidd a gellir hefyd adrodd am bryderon am blentyn, person ifanc neu oedolyn agored i niwed a darparu unrhyw dystiolaeth sydd ar gael i diogelu@bangor.ac.uk. Gellir hefyd gwneud adroddiad trwy glicio ar y ddolen ar y dde.
Y Swyddog Diogelu dynodedig ar gyfer y Brifysgol yw Pennaeth Gwella Ansawdd, Kelly Fisher (k.fisher@bangor.ac.uk)